|
Article in other languages:
|
Mae ffiseg (o'r Groeg "φυσικός", naturiol, a "φύσις", natur) neu anianeg (term hynafol) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur. Amcan ffiseg yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser. Mae anianeg yn:
Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg. Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall. Hanes Ffiseg
Prif erthygl: Hanes ffiseg
Ffiseg yw'r wyddoniaeth o mater, ymddygiad y mater a mudiant. Dyma un o ddisgyblaethau gwyddonol hynaf. Enw'r gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg yw Aristotle's Physics. Yng Nghymru, sefydlwyd cadair ffiseg ymMhrifysgol Aberystwyth yn 1877, Caerdydd yn 1883 a Bangor yn 1884. Nod a chwmpasMae ffiseg yn cwmpasu ffenomenau eang, o'r gronynnau is atomig bychan, i'r galaethau anferthol. Mae'r gwrthrychau mwyaf syml yn cael eu cynnwys mewn ffiseg ac felly dywedir fod Ffiseg yn "wyddoniaeth sylfaenol". Mae ffiseg yn ceisio disgrifio ffenomena amrywiol sy'n digwydd mewn natur mewn termau syml. Felly, mae ffiseg yn bwriadu cysylltu'r pethau pob dydd yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas i darddiad yr achos yn y gobaith o ffeindio'r rheswm eithafol ar gyfer ein bodolaeth. Er enghraifft, roedd y Tsieineaidd hynafol wedi arsylwi bod yna rymoedd anweledig rhwng mathau gwahanol o greigiau. Adnabyddir yr effaith yma erbyn hyn fel magneteg neu magnetedd. Yn gynharach darganfu'r Groegwyr hynafol drydan wrth rwbio gwefr efo ffwr. Roedd datblygiadau technoleg yn yr 19eg ganrif wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy theori. Gelwir hyn yn electromagnetedd. Canghennau Ffiseg
Gwyddonwyr Ffiseg o Gymru
Gwyddoniaeth Naturiol
Bioleg · Cemeg · Ecoleg · Ffiseg · Gwyddorau daear · Seryddiaeth
Isdosbarthiad Ffiseg
Acwsteg · Astroffiseg ·Cryogeneg · Cosmoleg ·Cysyniadau ffiseg ·Ffiseg atomig, moleciwlaidd ac optig · Ffiseg Mater cyddwysedig · Dynameg Dynameg hylif · Ffiseg Atomig ·Ffiseg cyflymydd ·Ffiseg cyfrifiantol · Gronynau · Gronyn isatomig · Grymoedd sylfaenol ·Thermodynameg · Electromagnetedd · Opteg · Ffiseg gronnynau · Mater · Mecaneg · Mecaneg glasurol · Mecaneg cwantwm · Mecaneg ystadegol · Theori perthnasedd · Perthnasedd Cyffredinol · Theori maes cwantwm ·Thermodynameg · Stateg · Stateg hylif ·Unedau SI
Y pedwar Rhyngweithiad Sylfaenol Ffiseg
Questions for article: |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.