|
Article in other languages: |
Tylwyth sydd wedi bod o bwysigrwydd mawr yn hanes Ewrop yw'r Habsburg. Roedd y teulu yn wreiddiol o'r Swistir, a chafodd ei enw o'r Habichtsburg yn Aargau. Bu aelodau o dylwyth yr Habsburg yn teyrnasu am ganrifoedd dros Awstria, Bohemia a Hwngari. O 1438 hyd 1806, roedd bron pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn aelod o'r teulu Habsburg. Yn y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, roedd aelodau o'r tylwyth yn rheoli Sbaen a Portiwgal, ac yn y 19eg ganrif yn rheoli rhannau o ogledd yr Eidal. Mae'r teulu yn parhau, a rhwng 1979 a 1999 roedd Otto von Habsburg yn un o aelodau Senedd Ewrop dros yr Almaen. Yn 1961, roedd wedi ymwadu'n swyddogol a'i hawl ar orsedd Awstria. Questions for article: dinasty habsburg, habsburg china history, 2. josephus 1780 habsbourg monarşisi, flag of gabsburg dinasty, habsburg suku josef, habsburg-china austria, habsburg-valois, habsburg-valois conflict, habsburg-valois war, habsburgok 1526-1918 wikipedia, habsburgovci |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.