|
Article in other languages:
|
Roedd y Llychlynwyr (unigol Llychlynnwr) yn fasnachwyr, gwladychwyr ac (weithiau) yn fôr-ladron, o Lychlyn. Roeddent yn masnachu, yn brwydro ac yn adeiladu gwladfeydd ledled moroedd ac afonydd Ewrop ac ar arfordir dwyreiniol Gogledd America o 800 hyd 1050. Roeddent yn galw eu hunain yn 'Northwyr' ('Gwŷr y Gogledd'), fel y gwneir gan Lychlynwyr modern sydd yn galw eu hunain yn nordbor; 'Northmyn' oedd un o enwau Cymry'r Oesoedd Canol arnynt. Enw'r Llychlynwyr yn Rwsia a'r Ymerodraeth Fysantaidd oedd y Varangiaid, o'r enw Væringjar, sef "dynion a chleddyfau ganddynt". Roedd Varangiaid yn rhan o warchodlu Ymerawdwr Caergystennin (y Gwarchodlu Varangaidd). Mae'r Llychlynwyr yn enwog iawn am frwydro ffyrnig a chryf ond roedden nhw yn grefftwyr a masnachwyr medrus iawn yn ogystal. Heddiw mae disgynyddion y Llychlynwyr yn byw yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Denmarc, Ynysoedd Faroe a Sweden. Gweler hefyd
Questions for article: |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.