Prag

Article in other languages:

Eglwys Týn (chrám Panny Marie před Týnem), Hen Dref, Prag
Hen Neuadd y Dref (Staroměstská radnice), Hen Dref, Prag
Castell Prag dros yr Afon Vltava (Hradčany)

Prifddinas a dinas fwyaf y Weriniaeth Tsiec yw Prag (Tsieceg: Loudspeaker.svg Praha ?/i , Almaeneg: Prag). Mae hi'n ddinas o tua 1.2 miliwn o drigolion ar lân Afon Vltava. Mae canolfan hanesyddol y ddinas ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Sefydlwyd y dref yn y nawfed ganrif ac mewn ychydig roedd llys brenhinol Bohemia yno. Roedd rhai o frenhinoedd Bohemia yn ymerodwyr yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Roedd y dref yn blodeuo yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg o dan reolaeth Siarl IV, a adeiladodd ran newydd y dref, Pont Siarl, Eglwys Gadeiriol San Vitus (eglwys gadeiriol Gothig hynaf yng Nghanolbarth Ewrop) a'r brifysgol, yr un hynaf yng Nghanolbarth Ewrop i'r gogledd o'r Alpau.

Cyn 1784 roedd yna bedair ardal annibynnol: Hradčany (Ardal y Castell i'r gogledd o'r castell), Malá Strana (Ardal y Dref Lai i'r de o'r castell), Staré Město (Ardal yr Hen Dref ar lân ddwyreiniol yr afon gyferbyn â'r castell) a Nové Město (Ardal y Dref Newydd i'r de-ddwyrain o'r castell). Mae'r ddinas yn cynnwys nifer o drefi eraill heddiw, e.e. Josefov, Žižkov, Barrandov, Holesovice a Vyšehrad.

Lladdwyd hyd at 50,000 o Iddewon yn ystod hil-laddiad y Natsïaid yn y ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gefeilldrefi


Flag of the Czech Republic.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Weriniaeth Tsiec. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Questions for article: gamlastadstorget prag, gamlastadstorget prag, kort prag, litovice unterkunft, praag ceki, prag, prag kort, prag begleitung leder stiefel, prag kort, www.reiseführer-prag-com

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.